Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (266) |
Datganiad y Llywydd
Croesawodd y Llywydd Altaf Hussain, yr aelod Ceidwadol newydd dros Ranbarth Gorllewin De Cymru a gwahoddodd Mr Hussain i gyfarch y Siambr.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.32
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Cwestiwn Brys
Dechreuodd yr eitem am 14.16
Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyhoeddiad a wnaed heddiw ynghylch buddsoddiad mewn tai cymdeithasol? EAQ(4)0331(CTP)
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.21
3 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Llysgenhadon Cyllid yr UE
Dechreuodd yr eitem am 14.50
4 Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol ynghylch y Strategaeth Dŵr
Dechreuodd yr eitem am 15.20
5 Datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: Deddfwriaeth Digartrefedd
Dechreuodd yr eitem am 16.00
6 Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ynghylch Gwerthuso'r Cyfnod Sylfaen: Adroddiad Terfynol
Dechreuodd yr eitem am 16.39
Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol ynghylch cydsyniad Ei Mawrhydi y Frenhines a Dug Cernyw
Yn unol â Rh.S. 26.67, gwnaeth y Gweinidog Cyfoeth Naturiol ddatganiad ei fod wedi cael gorchymyn gan Ei Mawrhydi y Frenhines a Dug Cernyw i roi gwybod i’r Cynulliad fod y ddau ohonynt, ar ôl cael gwybod am gynnwys y Bil Cynllunio (Cymru) yn rhoi eu cydsyniad i’r Bil hwn.
7 Dadl Cyfnod 4 ar y Bil Cynllunio (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 17.27
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5762 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo Bil Cynllunio (Cymru).
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
10 |
49 |
Derbyniwyd y Cynnig.
8 Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Llywodraeth Leol (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 17.41
NDM5760 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bill Llywodraeth Leol (Cymru).
Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9 Dadl ar Benderfyniad Ariannol y Bil Llywodraeth Leol (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 18.36
NDM5761 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil Llywodraeth Leol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69 sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.
Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
10Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.36
Daeth y cyfarfod i ben am 18.37
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 20 Mai 2015